“Cafodd y gwaith sy’n cael ei gynnal yn Sir Benfro argraff arna i, y gwaith sy’n cael ei wneud ar lefel Cyngor Tref a Chymuned yn benodol. Dyma rywbeth nad ydw i wedi ei weld yng Nghymru o’r blaen. Mae gen i ddiddordeb mewn dilyn canlyniadau’r datblygiad a’r ymchwil gan PLANED.”
Yr Athro Sally Holland
Comisiynydd Plant Cymru
“Roedd hi’n bleser bod yn ôl yn Sir Benfro ar ôl gweithio gyda PLANED i gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad Recharging Rural. Mae PLANED wedi esblygu’n wirioneddol dros y 30 mlynedd diwethaf, gan symud i gyfnod rhagweithiol o ychwanegu gwerth, rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth a datblygu partneriaethau grymus.
Mae’r holl waith hwn yn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn y gellir ei defnyddio i helpu i greu dyfodol gwydn a chynaliadwy i gymunedau gwledig yn Sir Benfro.”
Sarah Skerratt
Athro Cymdeithas a Pholisi Gwledig
“Nod Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol yw darparu tai gwirioneddol fforddiadwy i bobl leol, gan gynhyrchu incwm i gymunedau. Gall unrhyw un o fewn y gymuned ddod yn aelod o Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol. Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy i bobl leol, gall Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol hefyd fod yn gyfrwng ar gyfer rhoi prosiectau eraill ar waith – rhai sydd o fudd i’r gymuned, fel swyddfeydd post neu siopau cymunedol.”
Tom Chance, Rhwydwaith YTC Cenedlaethol
siarad am ei gyfarfod â Rhwydwaith YTC Cenedlaethol
“Roedd hi’n bleser gennyf fod yn bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol PLANED, a chlywed barn cymaint o sefydliadau lleol sy’n gwneud gwahaniaeth yn Sir Benfro. Mae’r sir wedi elwa’n sylweddol o gronfeydd yr UE, gyda PLANED yn esiampl dda o weithio mewn partneriaeth yn lleol i ddarparu nifer o brosiectau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cefnogi trwy gyllid yr UE. Dymunaf bob llwyddiant i’r sefydliad yn y dyfodol.”
Mark Drakeford
Cyn Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru
“Mae PLANED wedi esblygu dros amser, mae gan y mudiad hanes hir a balch wrth ystyried adfywio a chefnogi datblygiadau a arweinir gan y gymuned. Bydd PLANED yn 30 oed y eleni.
Rydym yn cyfrannu at adeiladu cymunedau cadarn fel eu bod yn gallu cael dylanwad cryfach ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt a’u llesiant. Rydym yn eu cefnogi i ddatblygu i fod yn gadarn pan ddaw newidiadau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.”
Lynne Upsdell
Cadeirydd PLANED Blaenorol
“Mae PLANED wedi bod yn allweddol wrth gefnogi cymunedau ar draws Sir Benfro, mae’n rhan o’r Sir ac rwy’n gobeithio, er gwaethaf Brexit, y bydd PLANED yn parhau i gynyddu llesiant a chynhwysedd o fewn ein Sir am ddegawdau i ddod."
Eluned Morgan
AC
“Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda nifer o fentrau, a’r cwbl wedi digwydd o ganlyniad i’r gweithdai gweledigaeth a gynhaliwyd gan PLANED a ddaeth ag aelodau’r gymuned ynghyd. Mae’r gweithdy a’r gweithgareddau dilynol hyn a gynhaliwyd gennych ar ein cyfer ni wedi adfywio diddordeb mawr a’r ymdeimlad o gymuned yn yr ardal.”
Mike Ridout
Ysgrifennydd, Cymdeithas Gymunedol Llandyfái