Ynni a’r amgylchedd

Ynni a’r amgylchedd

Sefydlodd PLANED Rwydwaith Amaethyddiaeth Gynaliadwy Sir Benfro (PSAN) fel fforwm i ffermwyr a thirfeddianwyr drafod syniadau a datblygu cyfleoedd sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth gynaliadwy. Mae’n hyrwyddo arferion ffermio sy’n diogelu ac yn gwella strwythur y pridd, bioamrywiaeth a thirwedd, yn addasu i newid yn yr hinsawdd, yn ailgylchu gwastraff, ac yn cynhyrchu neu’n defnyddio ynni adnewyddadwy.

Mae’n hyrwyddo arallgyfeirio mentrau fferm, a chydweithredu rhwng ffermwyr ac elfennau eraill yn economi’r sir, gan gynnwys bwyd, twristiaeth ac ynni. Ers sefydlu’r Rhwydwaith yn 2006, trefnwyd dros 50 o seminarau, gweithdai neu ymweliadau fferm, gan ganolbwyntio ar arferion amaethyddol cynaliadwy a’r cyngor a’r cymorth ariannol sydd ar gael i ffermwyr.

 

Mae’r Rhwydwaith ar gyfer Ynni Cymunedol yn annog cymunedau i ymchwilio i’r potensial i ddatblygu mathau amgen o ynni, i ddysgu oddi wrth eraill sydd wedi datblygu prosiectau ynni, rhannu syniadau a datblygu eu prosiectau eu hunain.

Er mwyn helpu’r rhwydwaith hwn, mae PLANED wedi trefnu digwyddiadau fel Seminar ar y We gyda Community Energy Scotland, gweithdy ar ‘Enillion ar Ynni Adnewyddadwy’, ac ymweliad i weld tyrbinau gwynt ar waith. Mae hefyd wedi codi ymwybyddiaeth o faterion ynni amgen drwy’r Rhwydwaith Amaethyddiaeth Gynaliadwy.

Nod y rhwydwaith ‘Gwerthfawrogi’r Amgylchedd‘ yw helpu cymunedau i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynllunio a gweithredu prosiectau ymarferol sy’n gwella amgylchedd y sir, ac sydd drwy hynny yn gwella ansawdd bywyd ac a allai ymestyn y cyfleoedd ar gyfer twristiaeth a hamdden cynaliadwy. Mae’r prosiectau ymarferol hyn yn ymddangos o fewn Cynlluniau Gweithredu Cymunedol.

Mae PLANED wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddi a gweithdai gyda chymorth arbenigwyr er mwyn ehangu dealltwriaeth pobl o’r amgylchedd. Mae’r pynciau’n cynnwys garddio bywyd gwyllt, plethu helyg, archwilio ynni, cyllid ar gyfer grwpiau amgylcheddol cymunedol ac ati. Mae ymwybyddiaeth amgylcheddol hefyd yn cael ei hyrwyddo drwy’r prosiect ‘Bywyd Gwyllt ar eich Rhandir’, sy’n galluogi pobl leol i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt sy’n byw yn eu cymdogaeth.

Ynni clyfrach

Mae PLANED yn bartner yn y prosiect hwn sy’n cael ei arwain gan Cadwyn Clwyd.

Mae’r prosiect hwn yn archwilio dichonoldeb gridiau Ynni Clyfrach gan gynnwys storio, cyflenwi uniongyrchol, monitro a rheoli prosiectau ynni adnewyddadwy sydd o fudd i gymunedau a phrosiectau sy’n gallu mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Bydd yn archwilio dichonoldeb ynni adnewyddadwy cymunedol ar ôl tariffau cyflenwi trydan ac yn datblygu astudiaethau achos ar gyfer 10 prosiect ledled Cymru Wledig.

Mae’r prosiect yn gobeithio gweithio gyda 10 prosiect ledled Cymru i ddatblygu cynlluniau busnes manwl.

Bydd y cynlluniau hyn yn archwilio dichonoldeb defnyddio datrysiadau Ynni Clyfrach ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy. Byddwn yn gweithio gyda’r prosiectau a ddewiswyd i archwilio datrysiadau Ynni Clyfrach a helpu i fodelu’r technolegau a ddewiswyd. Mae cefnogaeth hefyd ar gyfer cyngor technegol ac ar gyfer ymweliadau â phrosiectau rhagorol perthnasol.

Mae lleihau Tariffau Cyflenwi Trydan wedi gwneud y rhan fwyaf o brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol confensiynol yn anymarferol. Bydd Ynni Clyfrach yn buddsoddi mewn ymchwil a meithrin capasiti, gan edrych ar:

  • Storio
  • Cyflenwi uniongyrchol
  • Monitro
  • Rheolaethau

Mae grŵp llywio’r prosiect yn cynnwys:

  • Ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n adnabyddus am eu capasiti i gynhyrchu ynni adnewyddadwy;
  • Generaduron Ynni Adnewyddadwy Cymunedol;
  • Grwpiau LEADER – Cadwyn Clwyd, PLANED a Grwpiau Gweithredu Lleol sy’n weithgar mewn prosiectau ynni adnewyddadwy LEADER;
  • Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarth – Scottish Power Energy Networks ac Western Power Distribution;
  • Cwmnïau cyflenwi ynni moesegol;
  • Cwmnïau sydd ag arbenigedd a phrofiad o gynorthwyo cynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol – fel Cwmni Buddiannau Cymunedol The Green Valleys, Ynni Cymunedol Cymruac Asiantaeth Ynni Severn Wye.