Mae PLANED, yr elusen datblygu cymunedol yn Sir Benfro, yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Cris Tomos fel ei Phrif Weithredwr newydd.
Mae Cris wedi gweithio i PLANED ers dros ddeng mlynedd, ymunodd â’r sefydliad fel aelod o staff ar ôl gwasanaethu fel aelod bwrdd am nifer o flynyddoedd. Mae’n dod â mwy na 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y trydydd sector i’r rôl, ar ôl bod yn ymwneud yn agos â datblygu cymunedol a mentrau cymdeithasol ar draws Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Fel Prif Weithredwr, bydd Cris yn arwain gwaith PLANED yn cefnogi pobl leol, busnesau cymdeithasol a sefydliadau i adeiladu cymunedau cryfach a mwy cynaliadwy, ac mae’n edrych ymlaen at ddatblygu gwaith yr elusen drwy fentrau cymunedol a chydweithredol.
Wrth siarad ar ei benodiad, dywedodd Cris Tomos:
“Rwy’n falch iawn ac mae yn anrhydedd i ymgymryd â rôl Prif Weithredwr yn PLANED. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio ochr yn ochr â’n tîm staff gwych, ein hymddiriedolwyr, a’r nifer o bartneriaid sy’n gweithio gyda ni ar draws Gorllewin Cymru a thu hwnt, wrth i ni adeiladu ar waith PLANED a datblygu prosiectau cymunedol a chymdeithasol newydd gyda’n gilydd.”
Ychwanegodd Tony Baron, Cadeirydd ymddiriedolwyr PLANED:
“Ar ran bwrdd yr ymddiriedolwyr, rwy’n falch iawn o groesawu Cris i rôl y Prif Weithredwr parhaol. Mae ei wybodaeth am PLANED, ynghyd â dros 30 mlynedd o brofiad yn y trydydd sector, yn sicrhau ei fod mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y sefydliad i’w bennod nesaf. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Cris fel Prif Weithredwr newydd PLANED.”
