Agendâu a Chofnodion
Fel aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, mae PLANED yn cefnogi gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gynnal pecynnau agenda cyfarfodydd ar ein gwefan.
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bartneriaeth strategol statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Diben y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y sir. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gydweithio i wella llesiant yn Sir Benfro drwy feddwl mwy am y tymor hwy; gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd; a cheisio atal problemau cyn iddynt ddigwydd.
Ceir rhagor o fanylion am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar brif wefan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
