
Galluogodd cam peilot Menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru gymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i lansio eu hybiau bwyd cymunedol eu hunain. Gallwch ddod o hyd i’ch hyb bwyd agosaf trwy ddefnyddio’r map @ https://www.communityfood.wales/getinvolved
Credwn fod mynediad at fwyd a gyflenwir yn lleol yn bwysicach nag erioed. Dyna pam mai ein nod yw cysylltu cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd â’r gymuned leol; i roi mynediad hawdd i fwyd iachus o werth da. Cymerwch olwg ar ein hadnoddau ac archwiliwch sut rydym yn gweithio gyda’r gymuned, cyflenwyr a gwirfoddolwyr trwy ein prosiectau bwyd @ https://www.communityfood.wales/
Clywch yn uniongyrchol am effaith ein Hybiau Bwyd, trwy ein sianel ar YouTube: Food Projects – YouTube


