PERTHYN

PERTHYN

Mae prosiect Perthyn am greu sylfaen economaidd gref i gymunedau Cymraeg drwy ddod a pobl ynghyd i drafod y potensial ar gyfer:

  • Creu mentrau cymdeithasol a chydweithredol Newydd
  • Helpu mentrau cymdeithasol a chydweithredol sydd eisoes yn bodoli i wireddu cynlluniau Newydd
  • Creudatblygiadau tai cydweithredol wedi’u harwain gan y gymuned
  • Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ac felly rydym am weithio gyda chymunedau Cymraeg ar draws arfordir gorllewinol Cymru, o’r gogledd i’r de i drafod syniadau i greu gofodau ble gall pobl weithio a defnyddio’r Gymraeg a hynny mewn awyrgylch ffurfiol ac anffurfiol.

 

Oes gennych chi syniad yr hoffech ei drafod?

Mae Cwmpas, Partneriaeth Dolan a PLANED ar gael ’’ch cefnogi chi a’ch cymuned i gynllunio, trafod a datblygu mentrau cymdeithasol a chydweithredol wedi ei harwain gan y gymuned.

Rydyn ni yma i ddechrau’r sgwrs a chefnogi taith eich cymuned chi.

Lansio

Yn ystod Eisteddfod Ceredigion cyhoeddodd Jeremy Miles, AS Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fanylion Cymraeg: mae’n perthyn i’n cymunedau – sy’n cynnwys gwybodaeth am gynllun Perthyn

https://llyw.cymru/cymraeg-maen-perthyn-cymunedau?_ga=2.98074015.1653241169.1659956211-1986746908.1659274824

 

CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL:

Lansio Comisiwn Cymunedau Cymraeg:

https://llyw.cymru/lansior-comisiwn-cymunedau-cymraeg?_ga=2.86134033.80492588.1665071182-1308061503.1660912026

 

Cris Tomos
01834 860965