DATRIS

DATRIS

MAE’R PROSIECT HWN WEDI EI GWBLHAU (2023)

Ewch yn ddigidol

Hyffordiant a chefnogaeth i gymunedau yn Sir Benfro

Mae cyfrifiaduron, gwefannau a ffonau symudol yn rhan o’n bywyd bob dydd ni ond eto mae llawer ohonom yn cael trafferthion wrth eu defnyddio. Nod y prosiect DATRIS yw cynorthwyo pobl o fewn eich cymuned a allai wedyn roi cymorth i eraill ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth.

Hyfforddiant a chefnogaeth i unrhyw un sy’n dymuno bod yn fentor TGCh.

I gael mwy o wybodaeth am DATRIS, cysylltwch â Chydlynydd y Prosiect, John Ewart.

Mae Asedau Digidol a Hyfforddiant ar gyfer Datrysiadau Gwledig Arloesol, neu DATRIS yn brosiect, a weinyddir gan PLANED ac a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Rhai o’r sefydliadau a gefnogwyd gan DATRIS

Mae cymorth ar gyfer Amgueddfa Cymru ynghyd â Choleg Sir Benfro yn parhau i gael ei ddarparu ar nifer o’u prosiectau.
http://pembrokeshirechariot.wales

Cafodd staff Canolfan Llwynhirion ym Mrynberian gymorth i ddatblygu gwefan, gwneud taith rithiol o’u neuadd newydd yn ogystal â’i ffilmio o’r awyr.
http://canolfanbrynberian.org.uk

Recordiwyd cyfres o bodlediadau gyda’r staff a chwsmeriaid yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd
https://pembswellbeing.libsyn.com

Rhoddwyd cymorth i HaverHub CIC bron drwy gydol Prosiect DATRIS

https://haverhub.org.uk

Recordiwyd cyfres ddwyieithog o benodau podlediad ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
https://hyweldda.libsyn.com

Cafodd POINT, yr Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc, gymorth a chefnogaeth yn ystod y rhan helaethaf o Brosiect DATRIS
https://www.pointypt.org.uk/digi-champs/

Gweithiodd Prosiect DATRIS ar nifer o brosiectau a leolwyd ym Mhlasty Scolton a’r cyffiniau
http://scolton.comed.wales

Cefnogwyd SolvaCare a Together for Change ar wahanol achlysuron
https://www.solvacare.co.uk/social-media-masterclass-12-may/

Mae Prosiect DATRIS yn parhau i weithio â VC Gallery yn ei safleoedd yn Hwlffordd, Llanismel a Doc Penfro.
http://vcg.comed.wales

Darllenwch flog DATRIS yma


Dadlwythwch y daflen DATRIS yma

John Ewart
01834 860965