Cymdogaethau Natur Neyland

Cymdogaethau Natur Neyland

Mae Neyland yn Sir Benfro yn rhan o fenter newydd ledled y DU, sy’n ceisio helpu cymunedau lleol, trefol yn bennaf, i sefyll dros natur yn eu cymdogaethau.

Mae tri chwarter o bobl y DU yn poeni am gyflwr byd natur, ac eto rydym yn y 10% isaf o wledydd yn fyd-eang am ei warchod. Ym mis Mawrth 2023, nododd Cynllun y Bobl ar gyfer Natur argymhellion i wrthdroi dirywiad brawychus y DU ym myd natur, gan gynnwys galwadau am fwy o fuddsoddiad mewn ffyrdd i helpu cymunedau i weithredu, i ddiogelu ac adnewyddu natur, ar lefel cymdogaeth. Mae’r prosiect Cymdogaethau Natur, yn ymateb uniongyrchol i’r galwadau hynny.

Fel rhan o’r prosiect Nature Neighbourhoods, mae 18 o sefydliadau cymunedol ar draws y DU, wedi derbyn cymorth gan dair o elusennau natur mwyaf y DU – yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF. Mae’r sefydliadau wedi dod at ei gilydd, fel rhan o Save Our Wild Isles, partneriaeth barhaus i weithredu dros adferiad byd natur yn y DU, ac ynghyd â’r adwerthwr cyfleustra blaenllaw Co-op, bydd yn cefnogi cymunedau i greu cynlluniau wedi’u pweru gan bobl ar gyfer byd natur, yn eu hardal leol.

Bydd PLANED yn dod â’u hymagwedd a arweinir gan y gymuned i Neyland ar gyfer y prosiect hwn, gan hyrwyddo eu nodau i gefnogi cymunedau i adeiladu dyfodol cynaliadwy.

Dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED: “Mae PLANED gyda 35 mlynedd o rymuso datblygiad a arweinir gan y gymuned yng ngorllewin Cymru, wrth ei fodd i fod yn rhan o brosiect Cymdogaethau Natur / Nature Neighbourhoods mewn partneriaeth â WWF. Mae ein tîm wedi’i wreiddio mewn cymunedau ar draws ystod o brosiectau sydd i gyd yn effeithio ar yr amgylchedd ehangach, a llesiant cyffredinol ac yn ei gefnogi, felly mae’n fraint fawr gallu cefnogi a gweithio ar y prosiect cenedlaethol allweddol hwn o bwys yma yng ngorllewin Cymru, ac un y byddwn yn ei gyflawni’n arloesol ac ar y cyd.”

Mae Polina Henderson yn gweithio i PLANED i gefnogi cymuned Neyland, datblygu ei Chynllun Cymdogaeth Natur trwy gydgynhyrchu, ymgysylltu, a gwrando ar anghenion dyfodol cynaliadwy’r mannau lleol hanfodol, ac amgylchedd ehangach y gymuned hon yn Sir Benfro.

Trwy, “Cerdded a Sgyrsiau” o amgylch yr ardal, a defnyddio digwyddiadau a phrosiectau sy’n bodoli eisoes, bydd y prosiect Cymdogaeth Natur yn gweithio trwy 2024 a 2025, i gefnogi’r gymuned i nodi’r hyn y maent yn ei ystyried yn bwysig i’w dyfodol amgylcheddol, a sut y gellir cynnal hyn. a’i gofnodi, er mwyn galluogi cynllun y mae’n berchen arno, yn ei ddefnyddio, ac yn ei ddatblygu ymhellach, gan y gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Digwyddiad Nesaf