Mae PLANED wedi cefnogi 15 prosiect ers 2007 gyda :
Cydweithio â chymunedau
Gall cyfranddaliadau cymunedol arbed siopau a gwasanaethau lleol, gallent gynorthwyo i ariannu prosiectau ynni adnewyddadwy, gallent gefnogi’r clwb chwaraeon lleol, mae’r rhestr yn parhau. Ond mae’r cwbl yn gymorth i adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn ac annibynnol. Ers 2009 mae dros 120,000 o bobl wedi buddsoddi dros £100m i gefnogi dros 400 o fusnesau cymunedol ledled y DU.


Pam?
Mae cyfranddaliadau cymunedol yn ffordd ddelfrydol i gymunedau fuddsoddi mewn mentrau sy’n rhoi pwrpas i gymuned.
Mae buddsoddi mewn cyfranddaliadau cymunedol yn ffordd ymarferol o gefnogi busnes sy’n gwasanaethu eich cymuned. Bydd cyfalaf y cyfranddaliadau yn gymorth i ariannu busnesau eraill. Fel canlyniad, efallai y cewch log cyfyngedig ar eich buddsoddiad. Ac os fyddwch eisiau eich arian yn ôl, mae gennych yr hawl i dynnu’n ôl eich cyfalaf cyfranddaliad yn llawn neu’n rhannol, yn amodol ar delerau ac amodau.
Sut?
Bydd Cynllun Cynnig Cyfranddaliadau Cydweithredol Cymunedol Gorllewin Cymru yn cefnogi cymunedau gyda chynigion cyfranddaliad i brynu tir ac adeiladau i gadw gwasanaethau lleol yn fyw ac i ddatblygu rhai newydd. Cymdeithasau yn unig sy’n gallu cyhoeddi cyfranddaliadau cymunedol. Mae cymdeithasau yn amodol ar Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014.
Anfonwch eich manylion cyswllt i Cris: crist@planed.org.uk


