Mae PLANED yn falch iawn o gyhoeddi ei fod yn lansio ei Wythnos Treftadaeth Gymunedol gyntaf yn Sir Benfro ddiwedd mis Mai, digwyddiad a fydd yn hyrwyddo ac yn dathlu treftadaeth a diwylliant cyfoethog cymunedau ledled y sir.

Bydd Wythnos Treftadaeth Gymunedol gyntaf Sir Benfro yn gwbl rithwir oherwydd cyfyngiadau COVID-19, ond y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at bethau mwy, gyda chynlluniau ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf yn cynnwys gweithgareddau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Sir Benfro.

Yn trefnu’r Wythnos mae Stuart Berry, Cydlynydd Diwylliant a Threftadaeth PLANED, a ddywedodd: “Rydym wir yn meddwl y gallai eleni fod yn sbardun i ddatblygu’r digwyddiad hwn yn un llawer mwy sy’n cwmpasu hanes a threftadaeth anhygoel ein sir yn llawn.

Rydym wir yn gobeithio y gallwn ysbrydoli sefydliadau eraill a’n grwpiau treftadaeth cymunedol gwych, ac y gall yr Wythnos ddod yn llwyfan i ddathlu’r gwaith sy’n digwydd mewn cymunedau, ac i gyrraedd mwy o bobl wrth adrodd hanes Sir Benfro.”

Eleni bydd yr wythnos yn rhedeg o Ddydd Llun 31 Mai i ddydd Gwener 4 Mehefin, a bydd deunydd ar-lein newydd ar gael drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys podlediadau treftadaeth gymunedol, ffrwd fideo fyw o Blasty Scolton ar brynhawn Llun Gŵyl y Banc, sgyrsiau hanes a chyflwyniadau, straeon tân gwersylla, a llawer mwy.

Bydd PLANED hefyd yn darparu dolenni newydd i gynnwys ar-lein presennol, gan gynnwys y digwyddiad Diwrnod Archaeoleg rhithwir a drefnwyd ar y cyd gan PLANED, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 2020, yn ogystal â chyfres podlediad misol Adleisiau o’r Gorffennol.

Un o uchafbwyntiau penodol yr wythnos fydd ‘cwis tafarn’ byw ar-lein a fydd yn agored i bawb ac yn cael ei ddarlledu dros sianel YouTube PLANED. Dywed Stuart: “Rydym yn gobeithio y bydd y cwis yn herio gwybodaeth pawb am hanes Sir Benfro, ond rydym wedi’i gyflwyno fel nad oes angen i chi fod yn arbenigwr hanes i gymryd rhan. Yn anffodus, ni allwn gynnig unrhyw wobrau – ar wahân i’r hawl i frolio ymhlith eich ffrindiau – ond gobeithiwn y bydd yn darparu noson o adloniant a hwyl i unrhyw un sydd â diddordeb yn y sir!”

Mae nifer o grwpiau a sefydliadau cymunedol eisoes yn cyfrannu at y digwyddiad eleni gan gynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod, Span Arts, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Amgueddfa Hwlffordd, a Phlasdy Scolton sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro.

Mae PLANED yn annog pob sefydliad lleol a grŵp gwirfoddol i gymryd rhan yn yr wythnos, naill ai drwy gymryd rhan yng ngweithgareddau PLANED, neu drwy gynhyrchu eu digwyddiadau eu hunain, a allai gynnwys sgyrsiau Zoom, teithiau rhithwir, arddangosfeydd ar-lein, neu unrhyw beth arall sy’n helpu i ddathlu treftadaeth wych Sir Benfro.

Bydd amserlen o ddigwyddiadau ac amseriadau ar gael drwy wefan a thudalen Facebook Adleisiau o’r Gorffennol yn ogystal ag ar draws holl gyfryngau PLANED, ond os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Stuart Berry ar: stuart.berry@planed.org.uk neu ewch i www.echoeswales.cymru am ragor o fanylion.

Fe’ch gwahoddir i’r fforwm Gyda’n Gilydd dros Newid Sbotolau ar Gelfyddydau Cymunedol.
 
Archwilio Gwerth y Celfyddydau ar Les Cymunedau Dydd Iau y 20 Mai 10.00-11.50
 
Ymunwch â Gyda’n Gilydd dros Newid ar gyfer ein digwyddiad Fforwm ail – Sbotolau ar Gelfyddydau Cymunedol – a fydd yn archwilio gwerth y celfyddydau ar les cymunedau.
 
Mae’r digwyddiad ar-lein ar gyfer cymunedau, gweithwyr proffesiynol, ymchwilwyr, ymarferwyr, cynllunwyr a rheolwyr celfyddydol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
 
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau ar amrywiaeth o brosiectau celfyddydol cymunedol yn Sir Benfro gan drefnwyr, artistiaid, ymchwilwyr a sefydliadau celfyddydol.
 
Bydd trafodaeth hefyd ar yr effeithiau cadarnhaol ar les cymunedau o ganlyniad i’r celfyddydau a sut y gellid eu hyrwyddo a’u hannog mewn byd ôl-bandemig.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
 
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: tfcpembrokeshire.org/events neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni: contact@tfcpembrokeshire.org
 
Mae’r digwyddiad wedi’i gyfyngu i 60 o leoedd ac mae AM DDIM.
 
Cofrestrwch am docynnau Eventbrite: https://bit.ly/3etQnG0

 

“Cynnig i’r gymuned gydweithio i gyflawni’r gwasanaethau gorau posibl”

Beth yw eich barn ynghylch darpariaeth gwasanaethau gofal lleol?

Fyddech chi’n hoffi cymorth gan eich cymuned i’ch helpu i barhau i fyw gartref?

Oes gennych chi aelod o deulu neu gymydog, neu ydych chi’n nabod rhywun fyddai’nhoffi hynny?

Hoffem gasglu cymaint o safbwyntiau ag sy’n bosib, i sefydlu a oes angen am, adiddordeb mewn, gwasanaeth gofal cydweithredol a redir ac a ddarperir yn lleol yn yrardal ddaearyddol a wasanaethir gan Feddygfa Preseli. Os gallwch sbario 5 munud i ateb ychydig o gwestiynau a rhannu eich barn.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/M5RZDZG

Fodd bynnag, os byddai’n well gennych gwblhau copi caled o’r arolwg hwn, cysylltwchag Abi Marriott yn PLANED abi.marriott@planed.org.uk  07951 515 075.

Law yn llaw ag arolwg o’r holl breswylwyr ac aelwydydd sydd â diddordeb yn lleol, maecyfle i drafod a darganfod mwy am y cynigion posib ar gyfer gwasanaeth gofal cydweithredol a redir ac a ddarperir yn lleol. Os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn gweminar ar-lein am ddim mwy nag awr, irannu a thrafod gyda’ch cyd-breswylwyr, wedi’u hwyluso’n annibynnol gan PLANED, ynadefnyddiwch y ddolen isod.

Edrychwn ymlaen at glywed eich lleisiau, a rhannu eich barn. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ar gyfer ein trafodaeth ar-lein derfynol ar:

Dydd Mercher 21 Ebrill am 5pm (yn Saesneg)

https://www.eventbrite.co.uk/e/150493890277