Mae PLANED yn falch o groesawu Tracey Jones fel ein Catalydd Menter Gofal Microog newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Mae Tracey wedi ymuno â’r tîm ar adeg pan fo dros 150 o Fentrau Microog wedi cael eu cefnogi i’w creu a’u gweithredu, ar draws ôl troed Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.
Gan ei bod wedi’i lleoli’n rhannol yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gaerfyrddin PLANED ym Mharc Dewi Sant, ac yn gweithio o bell ar draws y sir hefyd, mae Tracey yn dod â phrofiad eang i’r rôl, sydd hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cyn ymuno â PLANED ym mis Mehefin 2025, roedd profiad Tracey yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl ifanc, mewn rolau fel Cydlynydd Gofalwyr Ifanc, a gweithiwr Cymorth i Deuluoedd. Mae hi’n mwynhau dysgu, ac mae ganddi ystod o gymwysterau o radd mewn BA Blynyddoedd Cynnar, i Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a chyrsiau mwy arbenigol eraill, fel sgiliau cwnsela, ac Iaith Arwyddion Prydain.
Mae Tracey yn siaradwr Cymraeg, ac mae ganddi angerdd dros godi arian ar gyfer gwahanol elusennau a helpu pobl i deimlo’n gryf, ac mae’n edrych ymlaen at ymgymryd â rôl Catalydd Gofal, ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
I gysylltu â Tracey ynglŷn â chefnogaeth i Fentrau Micro Gofal a’r hyn y gall ei gynnig, anfonwch e-bost at Tracey.Jones@planed.org.uk neu ewch i’r cyfeiriadur ar-lein, trwy’r ddolen hon: PLANED | Catalyddion Gofal
