Micro Chwyldro mewn Gofal Ledled Gorllewin Cymru

Micro Chwyldro mewn Gofal Ledled Gorllewin Cymru

  • Crëwyd mwy na 100 o ficro-fentrau, ac maent yn dal i fod ar waith
  • Darparwyd mwy na 2,100 awr o ofal bob wythnos
  • 650 o gleientiaid mewn 12 mis, ac mae’r ffigur yn dal i godi

Ers 2020 mae PLANED, sef elusen datblygu cymunedol a leolir yn Arberth, wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i gyflwyno ffordd newydd o gyfoethogi dewis a rheolaeth o ran y gofal a gaiff pobl yn eu cartrefi eu hunain.

Rhoddwyd y prosiect Catalyddion Gofal ar waith yn Sir Benfro yn union cyn y cyfnod clo COVID cyntaf ym mis Mawrth 2020, pan benodwyd y Cydgysylltydd Lee James i gyflawni’r prosiect hwn – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Er gwaethaf yr heriau cychwynnol, cyflawnwyd llawer iawn yn ystod y tair blynedd diwethaf – yn Sir Benfro ar y dechrau – ac mae’r prosiect wedi galluogi a chynorthwyo’r unigolion hynny sy’n dymuno byw a gweithio yn eu cymunedau i sefydlu micro-fentrau er mwyn rhoi gofal a chymorth i bobl sy’n dymuno parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r prosiect yn galluogi micro-fentrau i ddarparu’r math o ofal parhaus y mae cleientiaid a’u teuluoedd yn ei werthfawrogi, gan greu dealltwriaeth a chydberthnasau gwirioneddol gyda’r bobl a gynorthwyant. Hefyd, mae’n rhoi mwy o hyblygrwydd i ficro-fentrau, yn ogystal â chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith.

Erbyn hyn, ceir mwy na 75 o ficro-fentrau yn Sir Benfro. Maent yn rhoi oddeutu 2,100 awr o gymorth yr wythnos i 650 o gleientiaid yn eu cartrefi eu hunain, maent yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau (yn cynnwys gofal cartref, cwmnïaeth a gofal personol) a hefyd maent yn darparu pecynnau cymorth ehangach pan fo angen.

Hyd yn hyn, mae pobl a arferai fod yn nyrsys ac yn weithwyr cymdeithasol, ynghyd ag eraill sy’n danbaid dros ddarparu gofal a chymorth, wedi ymgysylltu â’r prosiect i weld a ydynt yn gymwys i fwrw ymlaen a sefydlu micro-fenter. Yn wir, darganfu arolwg diweddar a gynhaliwyd yn ystod Haf 2023 fod bron i 50% o’r micro-fentrau sydd ar waith ar hyn o bryd yn meddu ar fwy na 16 mlynedd o brofiad yn y sector iechyd a gofal, a bod gan 25% yn ychwaneg 5-15 mlynedd o brofiad uniongyrchol. Dywed y micro-fentrau eu bod yn gwerthfawrogi’r hyblygrwydd a’r cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith – rhywbeth a ddaw yn sgil bod yn feistr arnoch eich hun. Hefyd, dywedodd bron i draean o’r rhai a holwyd na fyddent yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol pe na bai opsiwn y micro-fentrau ar gael.

Erbyn hyn, mae’r dewis a’r rheolaeth dros y gofal y dymunant ei gael yn nwylo’r unigolion. Ceir rhestr o’r micro-fentrau ar-lein, a chaiff y rhestr honno ei diweddaru’n gyson. Hefyd, mae adnodd ymholi ar-lein rhyngweithiol newydd yn cael ei dreialu a bydd yn cael ei gyflwyno cyn bo hir.

Yn sgil llwyddiant y prosiect yn Sir Benfro ers 2020, mae PLANED wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Gâr a Chyngor Ceredigion i gyflawni’r prosiect ledled ardal ddaearyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, er mwyn rhoi dull clir a chydgysylltiedig ar waith.

Ymunodd Lucy Cummings â thîm Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill, ac eisoes mae hi wedi cynorthwyo i sefydlu mwy na 25 o ficro-fentrau, gan alluogi a chynorthwyo cleientiaid yn eu cartrefi eu hunain ledled y sir.

Mae cyfweliadau ar fin cael eu cynnal gogyfer recriwtio gweithwyr ar gyfer Catalydd tebyg yng Ngheredigion. Ar ôl cynnal proses benodi, y gobaith yw y bydd gweithwyr y Catalydd newydd yn dechrau gweithio yng nghymunedau’r sir rywdro ym mis Ionawr.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, naill ai o safbwynt creu Micro-fenter neu o safbwynt sut i gael gafael ar y gwasanaethau a hyrwyddir gan Ficro-fentrau yng Ngorllewin Cymru, cliciwch ar y ddolen ar gyfer gwefan PLANED: https://planed.org.uk/cy/prosiectau/catalysts-for-care/