Yn ddiweddar, cynhaliodd PLANED eu cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol dan y teitl “Grymuso Cymunedau”.
Gan efelychu enw’r ddogfen newydd ddiweddar a gynhyrchwyd gan PLANED, Gweledigaeth, oedd yn nodi’r bedair brif thema gweithgareddau allweddol ar gyfer y tair blynedd nesaf, daeth y gynhadledd â nifer o unigolion allweddol sy’n gysylltiedig â hyrwyddo a darparu cymorth i gymunedau, ynghyd.
Yn dilyn camau ffurfiol y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ble croesawyd Ymddiriedolwyr newydd yn gyhoeddus i’r Bwrdd, yn cynnwys Tony Baron, Jane Lewis, Ian Eynon, a James Parkin, aeth ein cyfrifwyr a’n harchwilwyr yn eu blaenau i roi trosolwg o’n sefyllfa ariannol, a rhoi sêl bendith ar sefyllfa ariannol PLANED i’r gynulleidfa oedd wedi ymgynnull.
Darparodd ein siaradwr cyntaf, y Cynghorydd Neil Prior, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Sir Penfro, drosolwg clir o’r dirwedd bresennol, a chyfleoedd sydd dal ar gael i gymunedau, er gwaetha’r heriau allanol cynyddol.
Archwiliodd Dr Rhiannon Talbot-English fel Cyfarwyddwr Castell Picton, mewn sgwrs â Stuart Berry o PLANED, sut y mae cyfleusterau diwylliannol a threftadaeth yn sylfaen i nifer o gymunedau o ran sgiliau, cyfleoedd, a chaffael ymysg rhagolygon economaidd cymdeithasol eraill.
Gyda Sue Denman o Together for Change yn hyrwyddo’r defnydd o ddata cadarn i lywio polisi a darpariaeth, a Lee Hind yn diweddaru’r gynulleidfa ar yr effaith mae Hwb Cymunedol Sir Benfro eisoes wedi ei gael, roedd y mynychwyr a ddaeth ynghyd wedi eu hysbysu, eu diweddaru ac wedi ymgysylltu’n gadarnhaol ynghylch y gwaith a wneir gyda chymunedau ac ar eu cyfer, ble mae PLANED yn ymgysylltu a chynorthwyo ar y cyd.
Wrth i’r digwyddiad dynnu at ei derfyn, adroddodd Cydlynwyr Prosiect PLANED ar y prif gyflawniadau a rhoddwyd adroddiadau ar sefyllfa bresennol ein prosiectau ar y cyd, gyda neges glir bod llawer yn cael ei gyflawni, a bod angen mwy o hyrwyddo ac ymgysylltu gyda chefnogaeth partneriaid, er mwyn gallu cyflawni effaith gynaliadwy o fewn y cymunedau y mae’r prosiectau hyn yn ymdrechu’n gadarnhaol a pharhaus, i’w cyflawni.

Nododd ein Prif Weithredwr, Iwan Thomas, wrth fyfyrio ar y digwyddiad “Mae ein Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol wedi bod yn ddychweliad cadarnhaol iawn i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb. Mae’r holl fynychwyr wedi nodi’r manteision o fod yn yr un ystafell, a gwnaeth pawb sylw am yr egni cadarnhaol a hamddenol trawiadol a oedd yn amlwg iawn ac yn cael ei groesawu.”
“Ochr yn ochr â’r negeseuon pwysig ynghylch ein hagenda ‘Grymuso Cymunedau’, ac effaith anhygoel yr holl gyfranwyr, roedd gorffen y digwyddiad gydag arddangosfa goginio fyw gan Lisa Fearn, entrepreneur a chogydd sydd wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin, ynghylch defnyddio cynnyrch tymhorol mewn modd effeithiol a chost isel, yn ffordd unigryw o gloi’r digwyddiad gwych hwn ac a gafodd ei groesawu gan bawb,” ychwanegodd Iwan.
Gyda diolch i’n holl gyfranwyr, mynychwyr, Ymddiriedolwyr a thîm PLANED, a Martin Jones o Ogi am noddi’r lluniaeth ar y diwrnod, gallwch gael mynediad i’n Gweledigaeth newydd ar gyfer PLANED drwy’r ddolen hon: https://planed.org.uk/wp-content/uploads/2022/06/PLANED-Vision-2022-2025-CYM-1.pdf

