Mewn ymateb i ffyrdd newydd o weithio a chyda mwy o bwyslais ar waith partneriaeth deallus ar lawr gwlad, mae’r elusen datblygu cymunedol sydd wedi’i hen sefydlu yn Sir Benfro, PLANED, wedi cyhoeddi ei Dogfen Weledigaeth tair blynedd newydd ar gyfer y sefydliad.
Yn dilyn wythnos lwyddiannus yn cynnal swyddfa fflach yng Nghanolfan Siopa Glan yr Afon yn Hwlffordd gyda Business in Focus, lle cafodd yr holl brosiectau newydd a phrosiectau’r dyfodol eu hyrwyddo gyda phartneriaid a sefydliadau cymunedol, lansiwyd y Weledigaeth newydd o’r enw “Grymuso Cymunedau” yn y Ganolfan ar ddiwedd eu hwythnos yno.
Gan ddarparu mantra syml a chlir ar gyfer y sefydliad, mae’n cynrychioli ffordd newydd ymlaen a fydd yn sicrhau bod PLANED yn parhau i fod yn berthnasol, fel elusen sy’n cael ei harwain gan bobl sy’n rhoi arloesedd wrth wraidd ei dulliau, a chreadigrwydd fel rhan o’i dull, wrth hyrwyddo cyd-gynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth.
Dywedodd Prif Weithredwr PLANED, Iwan Thomas: “Dyma gyfle gwych i PLANED a’n tîm gwych presennol ddangos bod cydweithio’n allweddol i gyflawniadau dan arweiniad pobl, ac sy’n canolbwyntio ar y gymuned, ym mhob prosiect. Ar ôl dechrau’r broses weledigaeth hon cyn y cyfnod clo, fe wnaethom ei gohirio yn ystod y pandemig, ac yna wrth weld i ba raddau roedd cymunedau’n cymryd yr awenau ac yn ymateb yn wych yn ystod anterth COVID, roeddem yn gwybod bod gennym deitl addas iawn, sef ‘Grymuso Cymunedau’ ar gyfer ein gweledigaeth yn PLANED, ac ar gyfer asedau cymunedol a phobl Sir Benfro”.
Ychwanegodd Cadeirydd Ymddiriedolwyr PLANED, Elizabeth Rawlings “Mae PLANED bob amser wedi bod yn rhan allweddol o DNA camau gweithredu a darpariaeth gymunedol ar draws Sir Benfro, ond nawr yn yr amgylchedd ôl-Covid newydd hwn, mae ganddo’r elfennau cywir i symud ymlaen a chyflawni ar ‘Grymuso Cymunedau ‘ gyda’i ddull o weithredu sy’n canolbwyntio ar gydweithio, creadigrwydd, a lefel briodol o fasnachadwyedd i helpu cynaliadwyedd o fewn cymunedau ac iddynt gael perchnogaeth hirdymor”.
Mae’r Weledigaeth newydd ar gyfer PLANED yn seiliedig ar bedwar maes ffocws allweddol, ac mae gan bob un nifer o gamau allweddol i’w cyflawni, ac mae llawer ohonynt eisoes ar y gweill gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yma yng Ngorllewin Cymru gan gynnwys PAVS, Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae’r meysydd ffocws yn cwmpasu’r Economi Sylfaenol a’i ddatblygiad; Llesiant a Gwytnwch Cymunedol ehangach; Asedau Cymunedol Amgylcheddol, Naturiol a Diwylliannol; ac Atebion Cymunedol Gwyrdd a Charbon Isel.
Gyda chyllid diweddar wedi’i sicrhau ar gyfer prosiectau arloesol newydd sydd wedi gweld y cyntaf o lawer o Ganolfannau Bwyd Cymunedol newydd yn cael eu sefydlu ym Mhenfro a Dinbych-y-pysgod, yn ogystal â chymorth i godi arian drwy Gynigion Cyfranddaliadau Cymunedol ar gadw asedau allweddol lleol, a chreu dros 40 o ganolfannau mentrau micro newydd ar draws cymunedau yn Sir Benfro yn ystod y 3 blynedd diwethaf, mae PLANED yn parhau i fynd o nerth i nerth, a thrwy weithio gyda sefydliadau allweddol eraill, ac ochr yn ochr â nhw, gyda’r tîm cywir ar waith, bydd yn parhau i rymuso a chefnogi cymunedau am flynyddoedd maith i’r dyfodol.
