Mae PLANED eisiau croesawu Ymddiriedolwyr newydd i’w sefydliad dynamig sy’n parhau i ddatblygu. A allwn ni roi cyfle i chi gyflwyno’ch syniadau a rhoi eich brwdfrydedd ar waith…
- A ydych yn frwd dros gefnogi a hyrwyddo cymunedau drwy gydweithio?
- A ydych chi’n awyddus i ymuno â thîm proffesiynol mewn sefydliad dynamig ac agored, gyda thros 30 mlynedd o brofiad, a chefnogi’r tîm hwnnw?
- A oes gennych chi ddiddordeb mewn llunio prosiectau newydd a chynnig cyngor ac arweiniad i sefydliad blaenllaw?
- A ydych chi eisiau cefnogi sefydliad sy’n hyrwyddo syniadau newydd ac arloesedd o ran cefnogi pobl a chymunedau?

Os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar yr uchod, hoffem glywed gennych. Dywedwch pam rydych eisiau ymuno â’n Bwrdd o Ymddiriedolwyr a bod yn rhan o bennod nesaf PLANED.
Er mwyn cael sgwrs gyda’n Cadeirydd – Liz Rawlings, neu ein Prif Weithredwr – Iwan Thomas, cysylltwch drwy godi’r ffôn, 01834 860965, neu anfon e-bost at information@planed.org.uk. Gallwn drefnu amser sy’n gyfleus i chi er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ein gweledigaeth, ein gwasanaethau, a’n tîm arbennig, sy’n canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau, ac er eu budd nhw.
