Sioe deithiol i hybu democratiaeth yn ymgysylltu â’r rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf!

Sioe deithiol i hybu democratiaeth yn ymgysylltu â’r rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf!

Cynhaliodd prosiect LLAGC Ieuenctid dan arweiniad PLANED ei sioe deithiol gyntaf yng Ngholeg Sir Benfro ar 5 Ebrill i hyrwyddo ac annog y bobl ifanc sy’n pleidleisio am y tro cyntaf, i gymryd rhan yn yr etholiadau lleol sydd ar ddod.

Gyda chwmni sefydliadau partner yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Atriwm y coleg, roeddem ar y cyd yn gallu ymgysylltu mewn trafodaethau, dadl, ac arolygon gyda’r myfyrwyr er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd democratiaeth leol a’u hangen i gyfrannu ati.

Wrth weithio ar y diwrnod gyda’r Comisiwn Etholiadol, Cyngor Sir Penfro, Un Llais Cymru, Pwyllgor Ieuenctid Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a Democracy Box, fe wnaethom ymdrin â’r cyfan nid yn unig o ran y rheswm ei bod yn bwysig bod pobl ifanc yn lleisio’u barn yn lleol, ond o ran y dulliau y gellir eu defnyddio gan bleidleiswyr ifanc i ymgysylltu â’r cyrff cymunedol hynny.

Mae chwalu’r rhwystrau a’r mythau sydd gan bobl ieuengach ynghylch cynghorau tref a chymuned yn weithred allweddol gall y prosiect LLAGC Ieuenctid fynd i’r afael â hi, ac mae gweithio gyda’r sefydliadau hynny’n lleol i hyrwyddo a chefnogi cynwysoldeb eisoes yn digwydd.

Mae’r etholiadau lleol ar 5 Mai yn gyfle gwych i bleidleiswyr weld bod eu pleidlais yn wirioneddol bwysig, gan yn aml mae’r ffiniau mor gul rhwng yr ymgeiswyr. Fel prosiect, bydd LLAGC Ieuenctid yn parhau i weithio â phartneriaid ar y cyd i arddangos dull cydgysylltiedig er mwyn cefnogi’n pleidleiswyr ifanc i ymgysylltu, tra byddant yn cydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned ar ffyrdd unigryw lle gallan nhw gael dealltwriaeth o’r trigolion ieuengach yn eu cymunedau.

O’r arolwg a gynhaliwyd ar y diwrnod o gannoedd o fyfyrwyr a holwyd gennym ar y cyd yn y coleg ynghylch p’un a fyddant yn bwrw eu pleidlais ai peidio ar 5 Mai, dyma rai o’r sylwadau a gasglwyd:

“Mae pawb yn haeddu cael dweud eu dweud. Rwyf eisiau cyfrannu at yr hyn fydd yn digwydd yn ein cymuned.”

“Rwy’n pleidleisio’n lleol gan na allaf ddisgwyl gwneud gwahaniaeth yn genedlaethol os na allaf drafferthu i helpu fy ardal leol”.

“Does dim llawer o ddiddordeb gen i”

“Drwy fwrw fy mhleidlais rwy’n cyfrannu at ba bolisïau sy’n cael eu rhoi ar waith a diogelu fy nyfodol.”