Gofynnodd Gweinidog Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, a ymunwyd gan Marc Tierney hefyd, am gael siarad gyda microfentrau yn Sir Benfro i glywed am eu profiad o ddarparu gofal mewn ffordd newydd.
Mae microfentrau yn wasanaethau gofal a chymorth annibynnol a bach iawn, ac yn bobl hunangyflogedig fel arfer. Maent yn cynnig gwahanol ddewis i bobl yn hytrach nag asiantaethau mwy o faint. Ond mae’r ffaith eu bod yn fach yn golygu y gallant gynnig yr amser a’r cysondeb i feithrin gwir ddealltwriaeth a pherthynas gyda’r bobl y maent yn eu cynorthwyo.
Ymunodd sylfaenwyr microfentrau, Maria Davies (‘Side by Side’) a Jay Rogers (‘Jay’s Home Help Support Services’) â’r cyfarfod gyda Lee James yn PLANED dros Zoom. Esboniont sut yr oedd bod yn hunangyflogedig yn eu galluogi i gynnig mwy o amser i’w cleientiaid ac i gyflawni rôl yr unigolyn sy’n eu cynorthwyo. O’r herwydd, fallant feithrin perthynas go iawn gyda’u cleientiaid, gan ddeall yr hyn sy’n bwysig iddynt a sut i gynorthwyo eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol, yn ogystal â’u hanghenion gofal corfforol.
Dros y 15 mis diwethaf, mae nifer y microfentrau yn Sir Benfro wedi codi o 8 i 34, a gallwch weld y rhain yn y cyfeiriadur.
Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng PLANED, PAVS a CSP, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am ficrofentrau Sir Benfro a dilyn prosiect ‘Catalyddion Gofal’ sy’n eu cynorthwyo ar dudalen Facebook y rhwydwaith.
