Ar hyn o bryd mae PLANED yn gwneud amrywiaeth o waith ymgysylltu â’r gymuned allweddol ar ran partneriaid yn ardal Meddygfa Preseli, gan gynnwys Canolfan Cydweithredol Cymru, PAVS a Fforwm Cymunedol Trefdraeth.
Hoffem gasglu cymaint o safbwyntiau ag sy’n bosib, i sefydlu a oes angen am, a diddordeb mewn, gwasanaeth gofal cydweithredol a redir ac a ddarperir yn lleol yn yr ardal ddaearyddol a wasanaethir gan Feddygfa Preseli.
Os gallwch sbario 5 munud i ateb ychydig o gwestiynau a rhannu eich barn.
Fodd bynnag, os byddai’n well gennych gwblhau copi caled o’r arolwg hwn, cysylltwch ag Abi Marriott yn PLANED abi.marriott@planed.org.uk 07951 515 075.
Law yn llaw ag arolwg o’r holl breswylwyr ac aelwydydd sydd â diddordeb yn lleol, mae cyfle i drafod a darganfod mwy am y cynigion posib ar gyfer gwasanaeth gofal cydweithredol a redir ac a ddarperir yn lleol.
Os hoffech gymryd rhan mewn gweminar ar-lein awr o hyd, i rannu a thrafod gyda’ch cyd-breswylwyr, wedi’i hwyluso’n annibynnol gan PLANED, yna gwiriwch a fyddai’r dyddiadau a’r amseroedd isod yn gyfleus i chi, a chofrestrwch ar-lein yn defnyddio’r ddolen briodol.
Ymunwch â ni am drafodaeth ar-lein ar unrhyw un o’r dyddiadau hyn:
Edrychwn ymlaen at glywed eich llais, a rhannu eich barn.
Diolch.
