Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru, ddydd Llun, 19 Hydref, ynghylch ‘cyfnod clo cyflym’ ar gyfer Cymru gyfan, bydd holl swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod PLANED ar gau o 5pm ddydd Gwener, 23 Hydref.
Bwriedir ailagor ddydd Llun, 9 Tachwedd, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau pellach gan Lywodraeth Cymru.
Tra bydd ein cyfleusterau swyddfa ar gau dros dro, bydd y tîm yn parhau i weithio o adref lle byddwn yn parhau i gefnogi cymunedau, partneriaid a phrosiectau sy’n mynd rhagddynt yn ystod y cyfnod hwn.
I gysylltu â ni, e-bostiwch information@planed.org.uk gan adael eich enw a rhif cyswllt a byddwn yn ymdrechu i ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.
