Treialu Peiriannau Gwerthu Bwyd Ffres ledled Sir Benfro
Wedi’i arwain gan PLANED, mae Prosiect Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro wedi cael cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), a Llywodraeth Cymru.
Mae Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro yn brosiect peilot a fydd yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad 24/7 at gyflenwyr Cymreig a chynnyrch lleol.
Wrth gydweithio â phrosiect cyfredol Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, bydd yn gweithredu model dosbarthu hyblyg, cynhwysol ac amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy, gan uno cymunedau, cynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr.
Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yn www.communityfood.wales

