Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro yn bartneriaeth strategol statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Diben y Ddeddf hon yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae PLANED yn falch o fod yn aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro fel sefydliad sydd â thros 30 mlynedd o gyflwyno i gymunedau yn y sir.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Sir. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau’r BGC gydweithio i wella llesiant yn Sir Benfro drwy feddwl mwy am y tymor hwy; gweithio’n well gyda phobl, gyda chymunedau a chyda’i gilydd; ac anelu at atal problemau cyn iddynt ddigwydd.
Mae Adroddiad Blynyddol BGC 2018-2019 ar gael yma.
Gall aelodau’r cyhoedd ddod i gyfarfodydd y BGC. Rhestrir dyddiadau ac amseroedd cyfarfodydd hyd at ddiwedd mis Tachwedd 2019 isod;
| Date
|
Time
|
Location
|
| Dydd Mawrth 19 Chewfror 2019 | 10.00yb | Gorsaf Dan Hwlffordd |
| Dydd Mawrth 30 Ebrill 2019 | 10.00yb | Swyddfeydd PLANED, Arberth |
| Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019 | 10.00yb | Neuadd y Sir (Ystafell i’w chadarnhau) |
| Dydd Mawrth 24 Medi 2019 | 10.00yb | Swyddfeydd PCASB, Parc Llanion, Doc Penfro |
| Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2019 | 10.00yb | Swyddfeydd PLANED, Arberth |
| Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020 | 10.00yb | Swyddfeydd Porthladd Aberdaugleddau |
| Dydd Llun 27 Ebrill 2020 | 10.00yb | Lleoliad i’w gadarnhau |
| Dydd Mawrth 23 Mehefin 2020 | 10.00yb | Neuadd y Sir, Hwlffordd |
| Dydd Mawrth 22 Medi 2020 | 10.00yb | Swyddfeydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
| Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2020 | 10.00yb | Swyddfeydd PLANED, Arberth |
Anogir aelodau’r cyhoedd i gyflwyno cwestiynau i’w hystyried gan y BGC. Noder bod yn rhaid i gwestiynau o’r fath ymwneud â swyddogaethau statudol neu raglen waith y BGC. Ni chaiff cwestiynau sy’n ymwneud â gwaith sefydliadau unigol ymateb gan y BGC ond cânt eu hanfon i’r sefydliad unigol fel y bo’n briodol. Os hoffech gyflwyno cwestiwn, cysylltwch â psb@pembrokeshire.gov.uk.
Mae rhagor o wybodaeth am y DGC ar gael yma.
