Byrddau Graffiti LLAGC Ieuenctid Cymunedol

Mae prosiect LLAGC Ieuenctid gan PLANED yn llythrennol wedi tynnu sylw at negeseuon pobl ifanc ledled Sir Benfro dros y misoedd diwethaf.

Rhwng Chwefror a Mai 2023, daeth naw digwyddiad ar draws y sir â dros 120 o bobl ifanc a chynghorwyr Tref a Chymuned leol ynghyd; roedd trafodaethau ar gryfderau cymunedol a chyfleoedd ar y cyd i wella yn bwydo’n uniongyrchol i greu deunaw bwrdd Graffiti mawr gyda chefnogaeth yr artist lleol Lloyd the Graffiti.

Mae’r byrddau’n amlygu themâu o ddiddordeb a phryder i bobl ifanc ar draws y sir gan gynnwys mynediad i drafnidiaeth, mannau a gweithgareddau ieuenctid a thai fforddiadwy yn ogystal â’r awydd am gymunedau mwy disglair, mwy caredig a gwell amgylcheddau naturiol lle mae pobl ifanc wedi’i chysylltu’n well â phreswylwyr hŷn ac yn teimlo bod croeso iddynt ac yn ddiogel.

Am manylion llawn yn ogystal a ddadansoddiad o themau y byrddau a’u cyfranwyr, gwasgwch y linc isod:

Aberdaugleddau

Abergwaun

Dinbych y Pysgod

Doc Penfro

Hwlffordd – Fforwm Ieuenctid

Hwlffordd – Gwaith yn yr Arfaeth

Neyland

Penfro

Ysgol Preseli