Cyfeiriadur Mentrau Gofal a Chymorth yn Sir Gaerfyrddin ‘Catalyddion Gofal’

Mae’r cyfeiriadur hwn yn cynnwys rhestr o fentrau annibynnol bychain sy’n darparu gwasanaethau gofal a chymorth yn Sir Gaerfyrddin.

Fe’i lluniwyd gan brosiect Catalyddion Gofal, sy’n bartneriaeth rhwng CGGSB, PLANED, Cyngor Sir Gaerfyrddin  er mwyn cynorthwyo datblygiad mentrau gofal a chymorth yn Sir Gaerfyrddin.

Diben y cyfeiriadur yw cynnig mwy o ddewis i bobl er mwyn eu galluogi i sicrhau gwasanaeth gofal neu gymorth lleol a phersonol sy’n gweithio iddyn nhw.

Rhannwyd y gwasanaethau yn ddau gategori:

  • ‘Gofal Cartref, Cymorth yn y Cartref a Chymorth Cymunedol’
  • ‘Gwasanaethau Cymunedol a Lles’

Caiff yr holl wasanaethau eu rhedeg gan bob leol ar raddfa fach.  Mae bod yn fach yn golygu y gallant gynnig yr amser a’r cysondeb i feithrin perthynas a dealltwriaeth go iawn gyda’r bobl y maent yn eu cynorthwyo.

Sut ydw i’n penderfynu a fyddai gwasanaeth microfenter yn iawn i mi?

Gall microfentrau fod yn ddewis da i bobl sy’n chwilio am wasanaeth bach, lleol sy’n gallu cynnig amser a dilyniant er mwyn adeiladau perthnasau mwy personol. 

Fodd bynnag, oherwydd bod microfentrau yn fach iawn a’u bod yn wasanaethau sydd heb eu rheoleiddio fel arfer, dydyn nhw ddim yn briodol i bawb. Mae 3 pheth i’w hystyried:

Mae’n rhaid i’r person sy’n derbyn cefnogaeth, neu’r sawl sy’n eu cynrychioli’n gyfreithiol fod yn gallu ac yn hapus i:

  • Wirio’n briodol ac asesu addasrwydd y ficrofenter (gweler t.2 o’r cyfeiriadur am restr wirio a’r adran isod sy’n egluro hyn)
  • Cyfarwyddo a chydlynu eu gofal / cefnogaeth yn barhaus
  • Trafod / cytuno ar gynlluniau wrth gefn priodol ar gyfer ymweliadau gyda’r ficrofenter / microfentrau

Am ragor o wybodaeth ynghylch hyn, gweler t.1-3 o’r cyfeiriadur os gwelwch yn dda a / neu gwyliwch y fideo byr ar y dde.

Sut ydw i’n gwneud ymholiad?

Os ydych chi wedi penderfynu y byddai gwasanaeth microfenter yn iawn ar eich cyfer chi (gweler yr adran uchod), gallwch wneud ymholiad mewn 2 ffordd:

  • Edrychwch ar y cyfeiriadur, chwiliwch am y gwasanaethau yn eich ardal a chysylltwch gyda’r rhai mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw am sgwrs gychwynnol. Neu
  • Defnyddiwch y ffurflen ymholiadau trwy glicio ar y botwm oren ar frig y dudalen hon. Pan fyddwch yn cwblhau’r ffurflen hon byddwn yn rhannu eich manylion gyda’r gwasanaethau microfenter yn agos atoch chi. Yna byddwch yn derbyn e-byst gyda manylion yr holl ficrofentrau sydd wedi nodi eu bod yn addas ac ar gael i’ch cefnogi, gan adael i chi ddewis pa gefnogaeth sy’n iawn ar eich cyfer chi. Gall y dewis hwn fod yn ddefnyddiol os oes yna nifer o wasanaethau sydd o ddiddordeb i chi ac nad ydych chi am gysylltu â phob un yn unigol. Gall teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n cyfeirio ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau hon.

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn gofal a chefnogaeth wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gallwch siarad gyda’ch gweithiwr cymdeithasol ynghylch prun ai a fyddai Taliad Uniongyrchol yn ffordd addas o brynu eich gofal a chefnogaeth wedi ei asesu gan ficrofenter.  

Beth sydd angen i mi ei wirio?

Tra mae microfentrau sydd yn ein cyfeiriadur wedi ymrwymo i safonau ‘Gwneud e’n Iawn’ Catalyddion Gofal, mae’n bwysig nodi nad yw’r prosiect Catalyddion Gofal na’i bartneriaid yn achredu nac yn cymeradwyo gwasanaethau’n ffurfiol ar ein cyfeiriadur.

Gan y byddwch yn ymwneud a gwasanaeth bach, annibynnol, eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud unrhyw waith gwirio priodol a phenderfynu a ydych chi’n hapus gyda’r gwasanaeth. Gweler t.2 ar eich cyfeiriadur am restr wirio. Am fwy o arweiniad ynghylch gwirio, gweler y ddogfen safonau a chanllawiau ‘Gwneud e’n Iawn’ neu’r fideos isod.

Am restr o wiriadau a awgrymir, cliciwch ar y botwm isod;

 

Stori fenter micro

Straeon cleient / gofalwr teulu: