Mentrus

Mentrus

Rydym yn falch o rannu lansiad Mentrus – partneriaeth newydd gyffrous rhwng Menter Dinefwr, PLANED a 4CG Cymru 2010 Ltd 🌿

 
Gyda’n gilydd, rydym yma i gefnogi cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru drwy gynnig atebion cynaliadwy ac arloesol; a chymorth trawsnewidiol gan adeiladu ar flynyddoedd o brofiad, gwybodaeth leol a gwerthoedd cyffredin.
 

Beth Sy’n Gwneud MENTRUS yn Wahanol?

Yn wahanol i sefydliadau cenedlaethol a allai fod heb fawr o gysylltiad â realiti bywyd bob dydd mewn cymunedau gwledig, mae MENTRUS wedi’i gwreiddio yng nghalon Gorllewin Cymru. Mae’r agosrwydd hwn yn rhoi mantais amlwg i ni: rydym yn deall amrywiaethau, anghenion a dyheadau ein cymunedau. Mae ein hymrwymiad i gymorth seiliedig ar le yn golygu nad ydym yma i ddarparu gwasanaethau yn unig; rydym yma i rymuso, dyrchafu, a darparu atebion cynaliadwy, hirdymor sy’n taro deuddeg o ran y diwylliant a’r ffordd o fyw leol.

 

Ein Meysydd Ffocws: Cryfhau Cymunedau, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair

Mae MENTRUS wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau diriaethol mewn tri maes allweddol sydd bwysicaf i bobl Gorllewin Cymru:

  1. Asedau Cymunedol: Rydym yn credu yng nghryfder asedau lleol, boed yn fannau cymunedol, sgiliau, neu rwydweithiau. Trwy gefnogi a grymuso cymunedau i fanteisio ar eu hadnoddau eu hunain, gallwn greu atebion cynaliadwy sy’n eiddo i’r bobl sy’n elwa fwyaf, ac yn cael eu llywio ganddynt.
  2. Economi a Menter Gymdeithasol: Mae economïau lleol ffyniannus yn hanfodol i les ein cymunedau. Trwy fentrau cymdeithasol a mentrau economaidd a arweinir yn lleol, ein nod yw meithrin twf, creu swyddi, a chryfhau cadernid economaidd y rhanbarth.
  3. Tai Fforddiadwy Lleol: Mae tai yn angen sylfaenol sy’n effeithio ar bawb, ac yng Ngorllewin Cymru, mae tai fforddiadwy yn aml yn brin. Mae MENTRUS wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r her hon trwy gefnogi datblygiad datrysiadau tai fforddiadwy sy’n ymarferol ac yn gynaliadwy i gymunedau lleol.