Mae’r cyfrif i lawr yn dechrau ar gyfer etholiadau lleol a phleidleiswyr tro cyntaf

Mae’r cyfrif i lawr yn dechrau ar gyfer etholiadau lleol a phleidleiswyr tro cyntaf

Mae pwysigrwydd ymgysylltu mewn etholiadau lleol gan bleidleiswyr ieuengach a’r rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf yn gyffredinol, yn cael ei arwain yn y sir gan PLANED sy’n gweithio gyda phartneriaid.

Gyda’i brosiect Ieuenctid CWBR newydd yn cael ei ariannu gan WCVA a’r Loteri Genedlaethol, ac yn adeiladu ar lwyddiant y prosiect Llesiant a Gwytnwch Cymunedol blaenorol a ariannwyd gan raglen UE LEADER, mae’r prosiect newydd sy’n canolbwyntio ar ieuenctid wedi gwneud dechrau da yn hyrwyddo ymgysylltiad pleidleiswyr ifanc yn yr etholiadau lleol ar 5 Mai.

Mae aelodau o’r tîm o fewn PLANED wedi cynhyrchu llawer o adnoddau gwybodaeth ar-lein, o fideos gydag ymgeiswyr ifanc sy’n sefyll ar gyfer Cyngor Sir Benfro, i bodlediadau gydag Un Llais Cymru, y Comisiwn Etholiadol, a Democracy Box, i hyrwyddo’r pwysigrwydd i bleidleiswyr ifanc yn benodol gymryd rhan, yn yr etholiadau sirol a lleol.

Dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED, “Gyda’r sgiliau arbenigol sydd gennym o fewn y tîm, rydym wedi gallu gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol, i sicrhau bod gan bleidleiswyr ifanc fynediad i’r offer a’r wybodaeth angenrheidiol i fod o gymorth iddynt brosesu pwysigrwydd cymryd rhan mewn democratiaeth leol. Serch hynny, ar 5 Mai fydd y gwaith yn cychwyn mewn gwirionedd, gan y bydd y prosiect yn parhau i fod o gymorth i gynghorau lleol ar draws Sir Benfro i ymgysylltu gyda phleidleiswyr ifanc yn ystyrlon a chynaliadwy i sicrhau bod gennym drafodaethau bywiog o fewn ein cymunedau ar faterion o bwysigrwydd lleol.”

Cyn y Pasg, fe ddaeth yr holl sefydliadau partner at ei gilydd i gynnal sioe deithiol yng Ngholeg Sir Benfro i hyrwyddo pwysigrwydd ymgysylltiad pobl ifanc mewn etholiadau lleol, ac fe oedd yr adborth gan y myfyrwyr yn hynod gadarnhaol. Dywedodd rhai fod cael cyfle i drafod y rhesymau pam fod angen etholiadau lleol a’r nifer o gyfrifoldebau swyddogaethau maen nhw’n eu cymryd o fewn eu cymunedau wedi bod o fudd mawr, a’r her gan y myfyrwyr oedd sut y dylai’r cynghorau eu hunain estyn allan ymhellach i sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan yn gyson.

Mae’r prosiect Ieuenctid CWBR a’r gwaith a wneir i hyrwyddo ymgysylltiad yn rhan o raglen gymorth ehangach o fewn Sir Benfro sydd wedi gweld cydweithio ymysg yr awdurdod lleol, PLANED ac Un Llais Cymru, i gynnal swyddog cymorth llawn amser i Gynghorau Cymunedol a Threfol ar brosiect peilot am flwyddyn. Trafododd Podlediad PLANED y gwaith yma’n ddiweddar, a gellir cael mynediad ato drwy wefan PLANED https://planed.org.uk/projects/planed-podcast/