A oes gennych chi frwdfrydedd amlwg tuag at gymunedau o fewn De-orllewin Cymru?
A ydych chi eisiau ymuno â sefydliad blaengar, cadarnhaol sy’n perfformio’n dda?
Mae PLANED yn elusen datblygu cymunedol gyda thros 30 mlynedd o brofiad o ddarpariaeth, arloesedd, a gweithio mewn partneriaeth ar draws Gorllewin Cymru. Wrth i gymunedau ffarwelio â heriau diweddar oedd yn gysylltiedig â COVID, rydym yn paratoi ar gyfer datblygiadau cyffrous newydd ar draws y sefydliad, gyda phrosiectau newydd sy’n parhau i roi pobl, yr amgylchedd, yr economi, gwaith digidol a phethau eraill, wrth wraidd ein cyfleoedd partneriaeth a chynnyrch arloesol newydd.
Mae PLANED yn teimlo’n gyffrous iawn i fod yn recriwtio ar gyfer tair rôl allweddol i ddarparu prosiect peilot cydweithredol newydd yn Sir Benfro, Caerfyrddin a Cheredigion. Bydd Menter Dosbarthu Bwyd yng Nghymunedau Cymru yn gweithio fel esiampl ddosbarthu hyblyg a chynaliadwy o ran yr economi a’r amgylchedd, sy’n dwyn ynghyd grwpiau cymunedol, cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd yng Nghymru sy’n cyfnerthu cadwyni cyflenwi bwyd Cymru, cefnogi cydlyniad a gweithgarwch rhwydweithiau gyda’r nod o wella argaeledd bwyd ffres, fforddiadwy a lleol.
Rydym yn chwilio am:
Swyddog Datblygu Prosiect (2 swydd) yn gweithio ar draws Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin – 37.5 awr, tymor hyblyg tan Fehefin 2023 (£25,000).
Gan gefnogi’r Cydlynydd Prosiect, rydym yn chwilio am Swyddogion Datblygu Prosiect trefnus; sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i weithio o fewn tîm bach i gyflawni o ran hwyluso a sefydlu Hybiau Bwyd Cymunedol. Bydd yr hybiau’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, ac yn gysylltiedig â chyflenwyr drwy Swyddogion Datblygu Prosiect rhanbarthol fydd yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i’r gwirfoddolwyr i sefydlu uwch drefn archebu a thalu fel bo cynnyrch lleol yn cael ei anfon a’i ddosbarthu o’r hybiau cymunedol hyn.
i lawrlwytho’r Swyddog Datblygu Prosiect disgrifiad swydd cliciwch yma Swyddog Datblygu Prosiect
I lawrlwytho ffurflen gais ar gyfer y Swyddog Datblygu Prosiect disgrifiad swydd cliciwch yma ffurflen gais
Os hoffech drafod unrhyw rai o’r swyddi hyn ymhellach, e-bostiwch Alice.coleman@planed.org.uk
Fel rhan o’n proses recriwtio, mae’n ofynnol eich bod yn cwblhau ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi’u cwblhau – 5pm, dydd Gwener 15 Hydref
