Ydych chi’n caru Sir Benfro ac yn frwdfrydig dros ei chymunedau?
Ydych chi eisiau ymuno â sefydliad blaengar, cadarnhaol sy’n perfformio’n dda?
OES?
Os felly, hoffem glywed gennych chi!
Swyddog Cyllid – 22.5 awr, cyfnod penodol hyd at fis Gorffennaf 2022 (£23,000 i £25,000 pro rata)
Gan gefnogi’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau Dynol, rydym yn chwilio am Swyddog Cyllid trefnus sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i weithio o fewn tîm bach i gyflawni ar draws pob elfen o gyllid ac adrodd.
Byddwch yn helpu gyda rheolaeth ariannol dda o bob agwedd ar y busnes ac yn gyfrifol am gofnodi ac adalw manylion ariannol, gan gynnwys cadw cofnodion ariannol, prosesu taliadau, anfonebau, trin arian parod a hawliadau prosiect.
Swyddog Prosiect LEADER – 22.5 awr, cyfnod penodol hyd at fis Gorffennaf 2022 (£25,000 pro rata)
Yn ogystal, rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect deinamig a threfnus i ymuno â thîm LEADER. Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog gyda llygad craff am fanylder o fewn tîm cyflym ac yn frwd dros ddatblygu cymunedau.
Byddwch yn helpu ac yn arwain prosiectau newydd a phresennol a gefnogir drwy gynllun LEADER Arwain Sir Benfro (ASB) ac yn cefnogi’r gwaith o reoli prosiectau newydd a phosibl a phrosiectau sy’n bodoli eisoes i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni o fewn amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt.
Mae profiad uniongyrchol o gyflawni prosiectau a ariennir, monitro grantiau, gwerthuso a rheoli hawliadau o fewn sefydliad tebyg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.
Gweler ein gwefan: www.planed.org.uk am fanylion ynglŷn â sut i ymgeisio.
Os hoffech drafod y rôl hon ymhellach neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch cyn gwneud cais, cysylltwch â Alice Coleman ar 01834 860965.
I lawrlwytho ffurflen gais ar gyfer y, Swyddog Prosiect LEADER cliciwch yma: Ffurflen Gais
I lawrlwytho’r disgrifiad swydd cliciwch yma Swyddog Prosiect LEADER Disgrifiad Swydd
Mae’r rhaglen LEADER yn rhan o Raglen Datblygu Gwledig (RDP) – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).

Fel rhan o’n proses recriwtio, mae’n ofynnol eich bod yn cwblhau ffurflen gais cyflogaeth y cwmni.
Dyddiad cau i dderbyn ffurflenni cais wedi’u llenwi – dydd Gwener 18fed Rhagfyr 2020.
Noder, oherwydd cyfyngiadau Covid19, bydd y broses gyfweld yn cael ei chynnal ar-lein.
Bydd cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cynnal ar 7 ac 8 Ionawr 2021.
