
Yn ddiweddar ymunodd Prif Swyddog Gweithredol PLANED, Iwan Thomas â’r panel mewn trafodaeth fywiog am y cyfleoedd yn ogystal â’r materion a’r rhwystrau sy’n effeithio ar fusnesau yn y sir.
Cynhaliwyd y digwyddiad bord gron hwn, ‘Rhoi Sir Benfro ar y map’ yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro gan Gyngor Sir Penfro, Business News Wales a Banc Datblygu Cymru.
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Iwan: “Yn ogystal â chael trafodaeth fywiog, roedd hi’n wych gweld pawb yn cytuno ar gamau nesaf pendant ar gyfer gweithredu yn Sir Benfro. Byddwn yn cysylltu â busnesau ar draws y sir ac yn gofyn iddynt beth sydd ei angen arnynt a beth y gallant ei wneud i helpu eraill yn ymarferol.
“Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad ydym yn sefydlu siop siarad arall yn unig, ond bod y fforwm hwn yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau yn Sir Benfro.”
Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd:
- Beth yw’r cyfleoedd i fusnesau yn y rhanbarth?
- Beth yw’r heriau sy’n wynebu busnesau yn y rhanbarth?
- A oes yna gymorth busnes a mynediad at gyllid digonol yn Sir Benfro?
- Sut mae’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn cydweithio i gefnogi’r rhanbarth a rhoi Sir Benfro ar y map?
- Beth arall allwn ei wneud fel grŵp i gefnogi busnesau yn y rhanbarth?
Ymunodd Iwan ag aelodau panel gwadd eraill: Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru; Y Cyng Paul Miller, Aelod Cabinet dros yr Economi, Cyngor Sir Penfro; Richard Easton; Swyddog Portffolio, Banc Datblygu Cymru; Mark Powney, Business News Wales; Sharon Adams, Rheolwr Perthynas, Siambr Masnach De Cymru; Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol, FSB; a Chris Williams, Rheolwr Masnachol, Bombora.
Yn dilyn y drafodaeth bydd yna bodlediad yn cael ei gyhoeddi yn Business News Pembrokeshire.
