Hyrwyddo ein treftadaeth a’n hatyniadau mewn partneriaeth, drwy brosiectau arloesol wedi’u harwain gan y gymuned
Ymddiriedolaeth Porth Tywi | Gardd Furiog Parc yr Esgob | Ymgysylltu â’r Gymuned a Rhanddeiliaid
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Porth Tywi fel Sefydliad Corfforedig Elusennol yn 2016. Mae’n rheoli Parc yr Esgob yn Abergwili, sy’n cynnwys Tiroedd Hen Blas yr Esgob, yr Ardd Furiog, a’r Ddôl Fawr, sy’n cael eu prydlesu gan Cyngor Sir Caerfyrddin a Chorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.
Yn ystod camau cychwynnol Prosiect Parc yr Esgob, derbyniodd £2 filiwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, i adfer a gwneud gwelliannau i’r parc.
Yn 2023, dyfarnodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gyllid cam datblygu’r parc ar gyfer prosiect newydd, i adfer yr Ardd Furiog, a’i throi’n ofod cymunedol amlswyddogaethol, ac ar yr un pryd derbyniodd y prosiect arian ychwanegol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Comisiynwyd PLANED i ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid er mwyn llywio cam datblygu’r prosiect. Roedd hyn yn cynnwys siarad â defnyddwyr yr ardd a’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r ardd, a cheisio barn cymunedau a ystyriwyd yn fwy anodd eu cyrraedd. Byddai angen y wybodaeth a gasglwyd o’r broses hon yn benodol i lywio datblygiad cynlluniau prosiect penodol, megis y Cynllun Gweithgaredd a’r Cynllun Ymgysylltu â Chynulleidfa, yn ogystal â Chynllun Busnes diwygiedig yr Ymddiriedolaeth.
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru | Freshwater West | Ymchwil Ymwelwyr, Ymgysylltiad Cymunedol
Mae Freshwater West yn ddarn hyfryd o dywod euraidd gyda thwyni ar Benrhyn Castellmartin y tu ôl iddo, mewn lleoliad anghysbell, gwledig yn ne orllewin Sir Benfro. Mae Freshwater West o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyma brif draeth syrffio Cymru, ac mae ganddo enw byd-eang, ond mae pobl leol hefyd yn ei garu’n fawr. Mae ei ddefnydd fel lleoliad ffilmio’r Shell House a bedd Dobby ar gyfer straeon Harry Potter, wedi arwain at fod yn gyrchfan i lawer o gefnogwyr y llyfr.
Mae seilwaith ymwelwyr cyfyngedig iawn – toiledau, maes parcio bach (gyda gorlif) a gwasanaeth arlwyo symudol. Mae consesiwn gweithgaredd yn gweithredu o’r traeth, o ran defnydd chwaraeon dŵr, ac mae’r RNLI wedi cael gorsaf achub bywyd ar y traeth yn ystod y tymor brig, gan gydnabod poblogrwydd y traeth a’r cerhyntau cryf sy’n codi yma. Ceir dwy garreg goffa sy’n coffau colli 37 o Fôr-filwyr Brenhinol, a foddwyd mewn damwain alltraeth ym 1943. Mae’r twyni wedi’u dynodi’n SoDdGA, oherwydd ansawdd uchel y cynefin, a phrinder y rhywogaethau a geir yma .
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Freshwater West wedi dod yn brysur iawn. Mae hyn wedi’i gyflymu rhywfaint, oherwydd cyswllt Harry Potter, ac wedi hynny oherwydd y galw a grëwyd gan ffyniant arhosiad COVID. Yn ogystal, mae’r twf yn y defnydd o gartrefi modur a faniau gwersylla wedi rhoi mwy o bwysau ar y lleoedd parcio sydd ar gael. Mae pwysau ymwelwyr hefyd wedi’i roi ar yr amgylchedd ei hun, gydag erydiad y twyni tywod, creu ‘llwybrau anffurfiol’ newydd, tanau traeth a sbwriel.
Y canlyniad yw bod pwysau ymwelwyr yn fwy na’r capasiti, ar nifer cynyddol o ddyddiau. Mae hyn hefyd wedi arwain at dagfeydd traffig ar adegau prysur. Mae hyn hefyd yn peri anawsterau o ran mynediad ffyrdd i bobl leol, ffermwyr a’r gwasanaethau brys. Mae hyn oll yn effeithio ar ansawdd profiad yr ymwelydd, a’r cymunedau lleol sy’n croesawu.
Bu PLANED yn gweithio gydag ymgynghoriaeth arall (Planning Solutions Consulting) i gynnal ymchwil ymwelwyr, er mwyn cyflawni astudiaeth dichonoldeb, ac i baratoi cynllun datblygu cynaliadwy ar gyfer Freshwater West. Roedd angen i’r astudiaeth ddichonoldeb a’r cynllun datblygu cynaliadwy ystyried dynodiadau presennol a’r fframweithiau polisi cynllunio lleol.
Ymddiriedolaeth Harri Tudur | Canolfan Ymwelwyr Harri Tudur | Ymchwil Ymwelwyr, Ymgysylltiad Cymunedol
Mae Ymddiriedolaeth Harri Tudur yn elusen annibynnol, sy’n goruchwylio’r datblygiad, ac a fydd yn y pen draw yn goruchwylio gweithrediad atyniad ymwelwyr treftadaeth newydd sy’n dathlu’r cysylltiadau sydd gan Harri Tudur (Henry VII) â de orllewin Cymru. Bydd y Ganolfan Ymwelwyr newydd wedi’i lleoli ym Mhenfro, gerllaw’r castell lle cafodd ei eni, a bydd yn adrodd hanes ei fywyd cynnar, a bywydau pobl gyffredin Cymru bryd hynny.
Comisiynwyd PLANED i weithio gyda’r gymuned leol, gydag ysgolion a chydag ymwelwyr, i ddeall yn well y themâu a’r straeon y byddai’r Ganolfan Ymwelwyr yn eu dehongli. Roedd y cwestiynau hefyd yn canolbwyntio ar y dulliau gorau o arddangos gwybodaeth, yn ogystal ag ystyriaethau ymarferol eraill, megis meysydd parcio, hygyrchedd a phrisiau.
Ymddiriedolaeth Castell Picton | Prosiect Gardd Furiog Castell Picton | Ymchwil Ymwelwyr, Gwerthuso Prosiect
Prifysgol Aberystwyth | Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth | Ymrwymiad Cymunedol
Bu Prifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Dulyn, yn cydweithio i ddatblygu a chyflwyno’r Prosiect Interreg Iwerddon-Cymru hwn o’r enw Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth (CUPHAT). Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddwy ardal ucheldir arfordirol yng Nghymru, a dwy yn Iwerddon, gan edrych ar hyrwyddo ymdeimlad o le o fewn cymunedau, a gwell arferion twristiaeth yn seiliedig ar hyn.
Comisiynwyd PLANED a CIC Menter Mynyddoedd Cambrian, ar y cyd i ymgymryd ag agweddau ymgysylltu cymunedol y prosiect o fewn dwy ardal ucheldir Cymru. Er bod pob un o’r ddau sefydliad yn bennaf gyfrifol am gyflawni yn eu hardal eu hunain, bu’r ddau yn cydweithio ac yn cefnogi ei gilydd yn eang, i gyflawni effeithlonrwydd, a chysondeb o ran dull gweithredu ar draws y prosiect.
