Lansio holiadur anghenion tai newydd ar gyfer Gogledd Sir Benfro, De Ceredigion a Gorllewin Sir Gaerfyrddin.

Lansio holiadur anghenion tai newydd ar gyfer Gogledd Sir Benfro, De Ceredigion a Gorllewin Sir Gaerfyrddin.

Mae holiadur ar-lein newydd i adnabod pobl sydd angen tai fforddiadwy wedi cael ei lansio’r mis hwn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. Mae’n holiadur annibynnol gan grwpiau cymunedol sy’n dymuno cefnogi unigolion a chymunedau yng Ngorllewin Cymru. Mae’r fenter yn gydweithrediad rhwng 4CG Cymru yn Aberteifi a’r elusen datblygu cymunedol PLANED yn Arberth. Mae’r holiadur ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y ddolen ganlynol: Holiadur Anghenion Tai  (Cymraeg) (office.com)

Dywedodd Hedd Harries “Rydym yn cysylltu â’r holl gynghorau Tref a Chymuned o fewn y cymunedau a nodwyd ond rydym hefyd yn annog grwpiau gwirfoddol i gymryd rhan wrth hysbysu pobl leol o’r cyfle i ddweud eu dweud. Rydym yn bwriadu cau’r arolwg ar 31/10/2022, felly mae angen i bobl anfon eu hymatebion erbyn y dyddiad hwn.”

Ychwanegodd Shan Williams o 4CG Cymru, “Mae tai i bobl leol yn fater hynod bwysig, rydym yn gweld ffigyrau cyfrifiad yn dangos diboblogi mewn ardaloedd gwledig wrth i bobl leol gael eu prisio allan a diffyg rhwydwaith cyflogaeth sy’n talu’n dda. Mae costau byw yn cynyddu hefyd gan waethygu’r broblem. Mae’n rhaid i ni edrych ar atebion radical.”

Dywedodd Cris Tomos “ Mae cymaint o angen am dai fforddiadwy lleol a byddai cael darlun cyfredol o’r angen am dai ym mhob cymuned yn galluogi sefydliadau perthnasol i gynllunio ar gyfer anghenion tai pob ardal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” Ychwanegodd Cris “ Mae angen i ni weld cymunedau lleol yn arwain ar ddatblygiadau tai i sicrhau eu bod yn cwrdd â’r galw lleol. Mae mentrau fel Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, prosiectau tai cydweithredol a mentrau tai ar y cyd yn cael eu harwain gan bobl leol ac maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd.”

Unrhyw un sy’n dymuno bod yn rhan o gychwyn menter tai a arweinir gan y gymuned yn eich ardal, cysylltwch â cris.tomos@planed.org.uk

Mae copïau caled o’r holiadur hefyd ar gael drwy gysylltu â hedd.harries@planed.org.uk neu ffonio swyddfa PLANED ar 01834 860965